CROESO
'Cyffuriau penfeddwol cyfreithlon, cyffuriau clwb, cyffuriau labordy, sylweddau seicoweithredol...'
Mae marchnadoedd cyffuriau yn newid.
Gall fod yn anodd dod o hyd i wybodaeth gywir ac aros yn ddiogel.
Mae Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS) yn profi sylweddau i roi gwybodaeth gyflym a chywir er mwyn lleihau niweidiau i ddefnyddwyr unigol ac eraill.

CASGLU, PROFI, HYSBYSU
Profi Sampl
Cliciwch yma i lenwi ffurflen Sampl o Sylwedd a Chofnod o’r Effeithiau. Canlyniadau Sampl WEDINOS
Yn dilyn adolygiad gan Fwrdd Rhaglen WEDINOS, penderfynwyd, o 25 Gorffennaf 2014, na fydd unrhyw samplau pellach o Steroidau a/neu Gyffuriau Gwella Delwedd (SIEDs) yn cael eu profi gan WEDINOS. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.
Mae WEDINOS yn brosiect lleihau niwed, sy'n darparu gwasanaeth dienw, ac yn adlewyrchu tueddiadau mewn defnyddio sylweddau. Mae'n bwysig felly bod samplau'n cael eu cyflwyno gyda ffurflen 'Cofnod o’r Effeithiau' wedi'i llenwi a gwybodaeth gywir am y cod post, gan gynnwys samplau o'r tu allan i Gymru.
Nid yw hyn yn effeithio ar eich anhysbysrwydd.
Ni fydd WEDINOS yn dadansoddi samplau sydd ag unrhyw werth tystiolaethol neu fforensig.
Ni fydd canlyniadau unrhyw samplau gyda chyfeirnodau a gynhyrchwyd ar y we (WXXXXXX) nad oes ganddynt ffurflen 'Cofnod o’r Effeithiau' wedi'i llenwi neu sy’n cynnwys gwybodaeth anghyson ynglŷn â'r cod post cywir yn cael eu cyhoeddi.
Trwy gyflwyno'r sampl hwn i WEDINOS, rydych yn cadarnhau eich bod yn ildio sylweddau anghyfreithlon yn eich meddiant yn llawn.
Gweithwyr iechyd proffesiynol: cyfeiriwch at TOXBASE i gael cyngor rheoli cyfredol.
© 2026 Public Health Wales | Iechyd Cyhoeddus Cymru | Privacy Policy
© 2026 Public Health Wales | Iechyd Cyhoeddus Cymru | Privacy Policy